Llun Llysgenhadon Myfyrwyr

Llysgenhadon Myfyrwyr

Oes gennych chi angerdd am eich prifysgol ac Addysg Uwch? Ydych chi yn hoffi cwrdd ag eraill a rhannu eich profiadau? Os felly, dylech ystyried bod yn Llysgennad Myfyrwyr!

cOFRESTRU EICH DIDDORDEB

Manteision bod yn Llysgennad Myfyrwyr

Mae bod yn Llysgennad Myfyrwyr yn r么l amrywiol iawn sydd yn cynnig amryw o gyfleoedd cyffrous i chi ddatblygu eich sgiliau arwain, adeiladu t卯m a chyfathrebu, a fydd yn cryfhau eich CV a鈥檆h cyflogadwyedd wedi i chi raddio.听

Mae Llysgenhadon Myfyrwyr yn cael eu cyflogi ar gytundeb achlysurol. Bydd amryw o gyfleoedd cyflogedig yn cael eu cynnig i Lysgenhadon yn ystod y flwyddyn academaidd.听

Byddwch yn gweithio gyda Llysgenhadon Myfyrwyr sy'n astudio cyrsiau gwahanol ac sydd mewn blwyddyn academaidd wahanol i chi. Cyfle gwych i wneud ffrindiau newydd!

Fel Llysgennad, byddwch yn creu cysylltiadau ac yn cydweithio gydag amrywiaeth eang o staff dysgu.听

Byddwch yn sgwrsio gyda darpar fyfyrwyr a'u teuluoedd am Brifysgol 六合彩资料铁算盘. Mi fydd gennych chi r么l arwyddocaol yn y broses recriwtio wrth i chi helpu darpar fyfyrwyr ddod o hyd i gwrs.

Myfyrwyr yn siarad ac ymlacio yn Barlows, Pentref Myfyrwyr y Santes Fair

Disgrifiad Swydd Llysgennad Myfyrwyr

Bydd Llysgenhadon yn cynrychioli Prifysgol 六合彩资料铁算盘 a chynorthwyo gyda digwyddiadau recriwtio, ar y campws ac yn allanol. Darllenwch y disgrifiad llawn o'r swydd isod.

  • Ysgol/Adran: Recriwtio a Derbyniadau鈥檙 DU
  • Cyflog: 拢13.45 yr awr
  • Hyd cytundeb: Achlysurol
  • Yn atebol i: Uwch Swyddog Llysgennad Myfyrwyr
  • Dyddiad Cau: 08-12-2023

Gwahoddir ceisiadau ar gyfer r么l Llysgennad Myfyrwyr ar sail contract achlysurol.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau

  • Cynorthwyo鈥檙 Brifysgol i ddarparu cyfleoedd ymgysylltu ar draws y campws gan gynnwys dyddiau agored a Dyddiau deiliaid cynnig.
  • Cynrychioli鈥檙 Brifysgol ar ddyddiau agored ac amrywiaeth o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn, ar y campws ac oddi arno. Gall hyn gynnwys aros i ffwrdd o鈥檙 brifysgol a gweithio gyda鈥檙 nos a phenwythnosau.
  • Cynnal teithiau o amgylch y campws, neuaddau a chwaraeon mewn digwyddiadau ar draws y Brifysgol.
  • Cyfarfod a chyfarch ymwelwyr i鈥檙 Brifysgol gan sicrhau bod ymwelwyr yn cael profiad pleserus ac o ansawdd uchel.
  • Darparu gwybodaeth ac ateb ymholiadau am fywyd myfyriwr ym Mhrifysgol 六合彩资料铁算盘 i ddarpar fyfyrwyr a鈥檜 rhieni.
  • Cyfle i gynorthwyo ysgolion ac adrannau academaidd ar draws y Brifysgol ar brojectau a digwyddiadau amrywiol.
  • Darparu adborth llafar ac ysgrifenedig fel rhan o broses werthuso鈥檙 Cynllun Llysgenhadon Myfyrwyr.
  • 听Unrhyw dasg neu r么l arall a ystyrir yn angenrheidiol gan yr Uwch Swyddog Llysgenhadon Myfyrwyr a Phrifysgol 六合彩资料铁算盘.
  • Ymwneud 芒 pholis茂au iaith Gymraeg y Brifysgol.
  • Hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn arferion gwaith a chynnal cysylltiadau gwaith cadarnhaol.

Gofynion Personol

Cymwysterau/Hyfforddiant

Hanfodol

  • Rhaid bod yn fyfyriwr cofrestredig ym Mhrifysgol 六合彩资料铁算盘.

Profiad/Gwybodaeth

Dymunol

  • Meddu ar ddealltwriaeth dda o Brifysgol 六合彩资料铁算盘.
  • Profiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc drwy waith cyflogedig neu wirfoddol.
  • Profiad o hwyluso gweithdai gr诺p a/neu fentora.
  • Profiad o fod yn Arweinydd Cyfoed.
  • Profiad o ddefnyddio Campus Connect ac Unibuddy.
  • Profiad o arwain teithiau campws neu neuaddau.

Sgiliau/Galluoedd

Hanfodol

  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol.
  • Gallu gweithio鈥檔 annibynnol ac fel rhan o d卯m.
  • Bod yn frwdfrydig, yn ddibynadwy a phrydlon.
  • Gallu ymgysylltu ac ennyn brwdfrydedd ystod eang o ddarpar fyfyrwyr.
  • Gallu defnyddio blaengarwch i ddatrys problemau a gweithio鈥檔 greadigol.
  • Bod yn barod a brwdfrydig i rannu eich profiad o Brifysgol 六合彩资料铁算盘.
  • Cadw meddwl agored a pharodrwydd i ddysgu.

Dymunol

  • Profiad blaenorol o weithio gydag amrywiaeth o bobl a pharodrwydd i ymgysylltu ag unigolion.
  • Gallu cyfathrebu yn y Gymraeg.
  • Gallu cyfathrebu mewn ieithoedd eraill.
  • Profiad o greu cynnwys ar gyfer flogiau.
  • Gallu creu cynnwys ysgogol ar gyfer cyfryngau cymdeithasol.
  • Diddordeb mewn ysgrifennu blogiau.

Cyffredinol

Mae'r Brifysgol yn ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir cyflawni hynny trwy ddenu, datblygu a chadw amrywiaeth eang o staff o nifer o wahanol gefndiroedd. Rydym yn ymdrechu i ddatblygu gweithlu o bob rhan o'r gymuned beth bynnag fo eu rhyw, hunaniaeth rhywedd, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth drawsryweddol, statws perthynas, crefydd neu gred, dyletswyddau gofalu, neu oedran. Rydym yn hyrwyddo ac yn hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg trwy ein Polisi Iaith blaengar. Rydym yn cydymffurfio 芒 Safonau'r Gymraeg ac yn ymrwymo i gyfle cyfartal. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg. Caiff pob cais ei drin yn gyfartal.

Rydym yn aelod o siarter Cydraddoldeb Rhyw Athena SWAN Advance HE ac rydym wedi derbyn gwobr Efydd i gydnabod ein hymrwymiad i gydraddoldeb rhyw a'r cynnydd a wneir ym mholis茂au, arferion a diwylliant y Brifysgol. Rydym yn falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.

Mae鈥檔 ddyletswydd ar yr holl staff i sicrhau bod eu gweithredoedd yn cydymffurfio ag amcanion amgylcheddol cyffredinol y Brifysgol a lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd.

Mae pob cynnig yn amodol ar dystiolaeth eich bod yn gymwys i weithio yn y Deyrnas Unedig ac ar dderbyn geirdaon boddhaol.

Mae cyfrifoldeb cyfreithiol arnom i sicrhau bod gennych yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn y gallwch ddechrau gweithio inni. O wneud cais am y swydd bydd gofyn i chi egluro ar ba sail y credwch y byddwch yn gallu byw a gweithio yn y Deyrnas Unedig yn gyfreithiol ar ddyddiad dechrau鈥檙 swydd os bydd eich cais yn llwyddiannus. Os nad oes gennych yr hawl i weithio鈥檔 rhydd mewn unrhyw swydd yn y Deyrnas Unedig eisoes, bydd unrhyw gynnig cyflogaeth y byddwn yn ei wneud i chi yn amodol arnoch chi鈥檔 cael fisa hawl i weithio. Mae'r yn darparu gwybodaeth am y gwahanol lwybrau fisa i gyflogaeth a'r gofynion cymhwystra (gan gynnwys newid statws fisa lle caniateir hynny). Os bydd eich cais yn llwyddiannus byddwn yn trafod yr opsiynau o ran fisa gyda chi ar adeg cynnig y gwaith cyflogedig.

Cofiwch, os derbyniwn geisiadau gan ymgeiswyr sydd ar Gofrestr Adleoli鈥檙 Brifysgol ac sydd 芒 sgiliau sy鈥檔 cyfateb yn weddol i ofynion y swydd, caiff yr ymgeiswyr hynny eu hystyried yn gyntaf.

Cofrestru eich diddordeb

Os ydych yn unigolyn cyfrifol ac yn frwd dros rannu eich profiadau gyda darpar fyfyrwyr ac yn awyddus i gynrychioli Prifysgol 六合彩资料铁算盘 drwy fod yn Llysgennad Myfyrwyr, byddem wrth ein bodd clywed gennych.

Cofrestru eich diddordeb

Beth nesaf?听

Unwaith y byddwch wedi cofrestru eich diddordeb, bydd un o鈥檙 t卯m yn cysylltu pan fydd cyfnod ceisio鈥檙 cynllun yn weithredol. Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch 芒鈥檙 t卯m.听

Cysylltu 芒 ni

Cofrestrwch eich diddordeb drwy lenwi鈥檙 ffurflen isod

Trwy lenwi'r ffurflen hon, rydych yn cytuno i Brifysgol 六合彩资料铁算盘 gysylltu听芒 chi gyda rhagor o wybodaeth am y Cynllun Llysgennad Myfyrwyr.

It looks like you鈥檙e visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?